Corsydd Iach

Mae llwyfandir ucheldir Cwm Elan yn dirlun agored, unig, gwyllt, a chanddi orwel sy’n ffurfio craidd mynyddoedd Elenydd. Mae llawer o’r tir yn gorwedd dan haen ddwfn o fawn sy’n gartref i gymunedau gorgors o blanhigion, adar, mamaliaid ac infertebratau. Mewn rhai mannau, erydwyd y mawn gan adael rhychwantau sydd wedi arwain at sychu’r mawn. Ar diroedd ble mae’r mawn o haen denau, mae Molinia, rhywogaeth o wair ymosodol, wedi meddiannu’r tir. Mae hyn wedi cyfyngu ar hygyrched i ymwelwyr ac yn peri bygythiad o danau gwair difrifol.

Ceisia’r cynllun wella  ardaloedd o gorgors a’u statws fel ardaloedd o gadwraeth. Bydd gweithredu i atal yr heriau hyn yn gymorth i sicrhau tirwedd a rhywogaethau llwyfandir yr ucheldir ar gyfer y dyfodol.

Yn ystod y cyfnod datblygu, rheolir o leiaf 20 o hectarau o gorgors ddiraddedig a chynefin gwellt gweunydd gormodol er mwyn adfer ansawdd y cynefin trwy gyfuniad o:

  1.  ail-broffilio mawn, ac adeiladu beliau o wellt gweunydd neu argaeau o goed er mwyn arafu llif y dŵr oddi ar gorsydd erydog a diraddedig;
  2. targedi toriad a phori’r gwellt gweunydd sy’n gysylltiedig ag ymchwil gwyddonol mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth; a
  3. torri adrannau o gorgors ddiraddedig ac ail-blannu gyda grug a rhywogaethau o figwyn.

Y bwriad yw i gwblhau’r canlynol:

  • Adfer/gwell reoliad ar o leiaf 20 hectar o gorgors ddiraddedig ac erydog

  • Ymchwil ar reolaeth gwellt gweunydd a fydd yn arwain at Ddoethuriaeth

  • Hyfforddi 10 o bobl mewn sgiliau rheoli corsydd

  • Dau ddiwrnod ar gyfer rhanddeiliaid

  • Hysbysu pob ffermwr Cysylltiadau Elan am y prosiect

  • Adroddiad ar ddiwedd y prosiect gydag argymhellion ar gyfer gweithgareddau y dyfodol er mwyn adfer holl gynefinoedd gorgors ddiraddedig Elan

  • Monitro gweithgarwch bioamrywiol

  • Cyfleu i gynulleidfa ehangach

Lawrlwythwch manylion y prosiect.

Cymerwch Ran

Darganfyddwch sut i gymryd rhan yng nghynllun Cysylltiadau Elan drwy’n prosiect Cyfeillion Elan.