Adar Prin Elan

Curlew-©-Ian-McFarlane

Mae Cwm Elan yn gadarnle traddodiadol i adar yr ucheldir fel cornicyll y mynydd, y grugiar goch, cylfinir, cudyll bach, mwyalchen y mynydd, clochdar yr eithin a’r ehedydd. Golyga newidiadau mewn rheolaeth y tir bod prinhau mewn adar prin yn ardal Cysylltiadau Elan. Mae’r prinhau yn ddibynnol ar rywogaethau planhigion neu batrymau llystyfiant.

Bydd y cynllun yn gwella ardaloedd allweddol o gynefin gan gymryd camau eraill i gynorthwyo llwyddiant magwriaeth yr adar prin hyn. Mae gennym gyfle i atgyfnerthu’r arferion traddodiadol yn ogystal â chyfle i leihau bygythiadau pellach.

Fe fydd y prosiect yn canolbwyntio ar bum rhywogaeth:

  • Gylfinir.  Gweithred yn cynnwys:  tir pori cymysg, ymyriad ar gyfer brwyn/gwellt y gweunydd, gwasgaru tail a gwahardd da byw yn ystod ambell gyfnod yn y flwyddyn.

  • Chwilgorn y Mynydd.  Gweithred yn cynnwys: gwella corsydd diraddedig, lleihau gwellt y gweunydd, hau had grug a migwyn ac/neu glaswellt dail mân.

  • Coch y Grug.  Gweithred yn cynnwys:  rheoli coed/tir prysg er mwyn cynnal tirwedd agored, rheoli rhostiroedd sych, rheoli effeithiol o drogod ymhlith da byw sy’n pori.

  • Mwyalchen y Mynydd.  Gweithred yn cynnwys:  plannu coed criafol a draen gwynion ar y gweundiroedd, rheoli’r rhedyn, pori gwartheg a merlod.

  • Cudyll Bach.  Gweithred yn cynnwys: gwella rhostiroedd sych, rheoli’r rhedyn, plannu coed ar wasgar a phori cymysg.

Dros y bum mlynedd nesaf, y bwriad yw i gyflawni:

  • Rheoli 40 hectar yn well ar gyfer y gylfinir

  • Rheoli 40 hectar yn well ar gyfer chwilgorn y mynydd

  • 450 hectar o barth i reoli trogod ar gyfer coch y grug

  • Rheoli 30 hectar yn well ar gyfer mwyalchen y mynydd

  • Rheoli 30 hectar yn well ar gyfer y cudyll bach

  • Hyfforddi 10 o bobl ar gyfer ffermio diogelu adar

  • Adroddiad diwedd y prosiect gydag argymhellion ar gyfer gweithgareddau’r dyfodol

  • Gweithgareddau gwirfoddoli

  • Cyfleu i gynulleidfa ehangach

Lawrlwythwch manylion y prosiect.