Gwarchod Amgylchedd Hanesyddol Elan

Home » Amdanomi » Elan Links: Pobl, Natur, Dŵr » Dathlu Etifeddiaeth » Gwarchod Amgylchedd Hanesyddol Elan

Mae Cwm Elan yn gartref i gyfoeth o leoliadau ac asedau treftadaeth hynafol. Gwelir ystod eang o safleoedd o’r oesoedd a fu hyd at godi’r cronfeydd dŵr yn y cyfnod diweddar. Mae’r hanesion yn cofnodi hanes ddiwylliannol y bobl hynny a symudodd ar draws yr ardal gan ei phoblogi dros y pum milienia olaf.

Mae’r cynllun yn anelu at warchod nifer o safleoedd dros Gwm Elan ynghyd â’r dystiolaeth hanesyddol y maent yn cynnig. Bydd hyn yn cyfrannu at gywirdeb y cofnodion hanesyddol sydd eisioes ar gael gan sicrhau eu diogelwch a’u rheolaeth ar gyfer y dyfodol.

Bydd y cynllun hwn, yn yr hir dymor, yn darparu cofnod mwy manwl a chywir o’r safleoedd, yn ogystal a bod yn fwy weladwy gan ddarparu hygyrchedd i’r cyhoedd.

Fydd y gwaith hwn yn sicrhau bod agweddau ar ein treftadaeth adeiledig a hynafol yn cael eu cynnal a’u cadw rhag dirywiad yn y dyfodol, ble’n briodol.  Fe fydd hi’n briodol i gasglu tystiolaeth oddi ar safleoedd sydd o dan fygythiad oddi wrth elfennau naturiol (er enghraifft erydiad), cyn i natur eu dinistrio.

Lawrlwythwch manylion y prosiect.